![]() |
![]() |
![]() |
|
|
PWYSIG IAWN: Drwy gadw eich lle ar Gwrs Cynllun Ymwybyddiaeth o Gyflymder Cenedlaethol Gogledd Cymru mewn ardal heddlu a weithredir gan DriveTech yr AA, rydych yn cytuno i gyd-fynd â’r Telerau a’r Amodau hyn. Gall darparwyr eraill y gwasanaeth o fewn y Cynllun Cenedlaethol gynnig Telerau ac Amodau gwahanol.Diffiniadau: • ‘chi’ - h.y. chi, y cwsmer, sef y sawl sy’n derbyn y llythyr gwahoddiad.• ‘ni’ ac ‘ein’ – h.y. Isadran DriverAware, AA DriveTech – sef enw masnach DriveTech (UK) Limited. • ‘Cynllun’ – dyma gynnig yr heddlu i gwblhau rhaglen hyfforddiant addysgol i yrwyr yn hytrach na derbyn dirwy, pwyntiau cosb neu gael eich erlyn. • ‘Cwrs’ – y cwrs hyfforddiant neu’r gweithdy penodol rydym yn ei weithredu mewn cysylltiad â’r cynllun. • ‘Cyfnod Cadw Lle’ – cyfnod o 14 diwrnod o’r dyddiad y cyflwynir y llythyr gwahoddiad i chi. • ‘Dyddiad Tyngedfennol’ – mae’n rhaid i chi gwblhau eich cwrs erbyn y dyddiad hwn a nodwyd gan yr heddlu. Mae hefyd yn cael ei alw’n ‘Ddyddiad Dod i Ben’ a ‘Dyddiad Cwblhau’. a) Cadw lle: Mae’n rhaid i chi gadw eich lle a thalu’r ffioedd ar gyfer y cwrs o fewn y cyfnod cadw lle drwy naill ai gadw lle ar-lein neu ffonio ein tîm Gofal Cwsmeriaid. Drwy gadw lle ar-lein, cewch ddewis y dyddiad a’r amser sydd orau gennych chi. Drwy gadw lle dros y ffôn, cewch gynnig dewis cyfyngedig o ddyddiadau ac amserau a bydd disgwyl i chi ddewis un ohonynt. Ni chaiff unrhyw un arall neu anifail anwes ddod gyda chi ar y cwrs gan nad oes cyfleusterau ar gael ar eu cyfer yn y lleoliadau hyfforddiant. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw anghenion arbennig neu os oes angen cyfieithydd arnoch i fynd ar y cwrs, rhaid i chi roi gwybod i ni pan ydych yn cadw eich lle. b) Methu â chadw eich lle: Bydd methu â chadw eich lle a thalu’r ffioedd o fewn y cyfnod cadw lle yn golygu na chewch ddilyn y cynllun a bydd yr heddlu yn mynd ati i ystyried eich erlyn am y drosedd. c) Talu: Cewch dalu drwy ddefnyddio’r rhan fwyaf o gardiau credyd neu ddebyd, â siec neu archeb bost. Nid ydym yn gallu derbyn sieciau sydd wedi’u hôl-ddyddio neu arian parod. Rhaid i sieciau neu archebion post fod yn daladwy i DriveTech (UK) Limited. Rhaid i ni dderbyn eich taliad o fewn 7 diwrnod ar ôl cadw eich lle er mwyn cadarnhau’r trefniadau a’ch lle. Os hoffech dalu llai na 21 diwrnod cyn dyddiad eich cwrs a/neu ar ôl y cyfnod cadw lle, gallwch dalu trwy ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd yn unig. Cewch dalu bob yn dipyn drwy sefydlu cynllun talu sy’n cynnwys hyd at 3 thaliad. Ar ôl i chi gadw eich lle a thalu am eich cwrs, nid oes modd newid eich trefniadau nac ad-dalu’r ffioedd. Gallwn, os ydym ni a neb arall yn gweld orau, hepgor neu ad-dalu unrhyw ffioedd yn unol â’r telerau a’r amodau hyn. ch) Sieciau: Rydych yn cytuno i dalu tâl gweinyddol o £8.00 os byddwch yn anfon siec atom heb ddigon o arian yn eich cyfrif. Mewn achos o’r fath, gallwch golli eich lle ond hwyrach y gallech aildrefnu eich cwrs yn unol ag amodau ff ac g. Rhaid gwneud unrhyw daliad dilynol â cherdyn credyd/ddebyd. Os na wnewch daliad o’r fath, ni chewch ddilyn y cynllun a bydd yr heddlu yn mynd ati i ystyried eich erlyn am y drosedd. d) Dyddiad tyngedfennol: Rhaid i chi gwblhau eich cwrs erbyn y dyddiad tyngedfennol. Os na fyddwch yn gallu cwblhau eich cwrs yn ystod y cyfnod hwn, ni chewch ddilyn y cynllun a bydd yr heddlu yn mynd ati i ystyried eich erlyn am y drosedd. Gyda chaniatâd yr heddlu, gellir gohirio eich dyddiad tyngedfennol. dd) Cwblhau’r cwrs: Rhaid i chi gwblhau’r cwrs yn foddhaol drwy; fod yno, cyrraedd yn brydlon, bod yn bresennol drwy gydol y cwrs a chymryd rhan yn llawn. Dim ond yr hyfforddwr sydd i benderfynu a ydych wedi cwblhau’r cwrs yn foddhaol ai peidio. Rhaid diffodd ffonau symudol a galwyr yn ystod y cwrs. e) Methu â bod yn bresennol: Os nad ydych yn gallu mynd ar eich cwrs: 1) Oherwydd amgylchiadau eithriadol: e.e. profedigaeth, rhesymau meddygol neu os ydych yn rhiant neu’n ofalwr ac mae eich dibynnydd yn sâl, a gallwch roi tystiolaeth ddogfennol i brofi hynny, cewch aildrefnu eich cwrs yn unol ag amodau ff ac g, cyn belled bod lle ar gael a thrwy dalu hyd at £30 am aildrefnu neu ffioedd aildrefnu fel y nodir yn amod ff, pa un bynnag sydd isaf. f) Methu â chwblhau: Os nad ydych yn gallu cwblhau eich cwrs, neu os nad ydych yn cwblhau’r cwrs yn foddhaol:
ff) Aildrefnu: Os ydych yn aildrefnu’r cwrs (gan gynnwys trosglwyddo i gwrs ‘Cynllun Ymwybyddiaeth o Gyflymder Cenedlaethol’ arall a gynhelir gennym o dan amod g) am ba bynnag reswm, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud hynny ac mae’n dibynnu ar y lleoedd sydd ar gael a thalu’r ffi aildrefnu yn unol â hyn dan amod ff. Rhaid cwblhau’r cwrs cyn y dyddiad tyngedfennol. Dyma’r ffioedd sydd ynghlwm ag aildrefnu: ni chodir ffi aildrefnu os ydych yn aildrefnu mwy na 28 diwrnod cyn dyddiad eich cwrs; £30 yw’r ffi aildrefnu os ydych yn aildrefnu rhwng 14 a 28 diwrnod cyn dyddiad eich cwrs; os ydych yn aildrefnu llai nag 14 diwrnod cyn dyddiad y cwrs, bydd y ffi aildrefnu yr un faint â pris y cwrs ar yr amser yr ydych yn aildrefnu. Dim ond â cherdyn credyd/debyd y cewch dalu’r ffioedd aildrefnu. g) Trosglwyddo i Gwrs ‘Ymwybyddiaeth o Gyflymder Cenedlaethol’ arall: Rydym yn cynnal nifer o gyrsiau ‘Ymwybyddiaeth o Gyflymder Cenedlaethol’ ledled y wlad ar gyfer gwahanol awdurdodau’r heddlu. Os hoffech drosglwyddo rhwng y cyrsiau ‘Ymwybyddiaeth o Gyflymder Cenedlaethol’ a gynhelir gennym, bydd y ffi aildrefnu dan amod ff yn cael ei godi. Os ydych yn trosglwyddo i gwrs drytach a gynhelir gennym, bydd angen i chi hefyd dalu’r gwahaniaeth yn y ffioedd rhwng y ddau gwrs (yn ogystal â’ch ffioedd gwreiddiol). Ni chewch unrhyw ad-daliad os ydych yn dewis trosglwyddo i gwrs rhatach. Os ydych yn trosglwyddo i gwrs ‘Ymwybyddiaeth o Gyflymder Cenedlaethol’ a gynhelir gan ddarparwyr eraill, byddwn yn ystyried eich bod wedi canslo eich trefniadau ac ni chewch unrhyw ad-daliad. ng) Prawf adnabod: Rhaid i chi ddod â’ch trwydded yrru (lawn neu dros dro gyda CBT yn unig) gyda chi i gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. Os nad oes gennych y math newydd o drwydded gyda llun arni, bydd rhaid i chi roi prawf addas arall o bwy ydych gyda’ch llun arno e.e. pasbort, yn ogystal â’ch hen fath o drwydded. Os na fydd gennych eich trwydded yrru neu brawf boddhaol o bwy ydych, ni chewch ddilyn y cwrs a bydd yr heddlu yn mynd ati i ystyried eich erlyn am y drosedd, oni bai eich bod yn aildrefnu eich cwrs, cyn belled bod lle ar gael a’ch bod yn talu ffi lawn y cwrs eto â cherdyn credyd neu ddebyd yn unig. Ni ad-delir unrhyw ffioedd gwreiddiol am y cwrs. h) Camau gennym ni i ganslo ac aildrefnu’r cwrs: Os na fyddwn yn gallu cyflwyno’r cwrs am ba bynnag reswm y tu hwnt i’n rheolaeth ni, byddwn yn aildrefnu’r cwrs cyn gynted ag y bo modd a chyn eich dyddiad tyngedfennol. Ni chodir unrhyw ffioedd ychwanegol. i) gofynion penodol: cyn cadw eich lle ar gwrs, rhaid i chi roi gwybod i ni os oes gennych unrhyw gofynion penodol, er enghraifft, anabledd ac/neu anawsterau mynediad yr hoffech chi i ni eu hystyred wrth ddarparu’r cwrs er mwyn i drefniadau addas gael eu gwneud. l) Cyflyrau meddygol: cyn cadw eich lle ar gwrs, rhaid i chi roi gwybod i ni os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol (gan gynnwys beichiogrwydd) a allai eich atal rhag mynd ar gwrs neu amharu ar eich gallu i yrru yn ogystal â chadarnhau eich bod wedi hysbysu’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau am y cyflyrau meddygol hyn. ll) Golwg: Gan fod y cwrs yn cynnwys sesiynau gyrru ymarferol, rhaid i chi lwyddo ym mhrawf golwg sylfaenol yr Adran Drafnidiaeth sef darllen rhif car yn llwyddiannus: yr hen fathau o rifau o 20.5 medr a’r mathau newydd o 20m mewn golau dydd da. Os na allwch wneud hyn, ni chewch yrru yn ystod y cwrs sy’n golygu na allwch ei gwblhau. Hwyrach y gallwch aildrefnu eich cwrs yn unol ag amodau ff ac g. m) Gwarantau: Hyd yr eithaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn rhoi unrhyw warantau ac nid ydym yn cyflwyno unrhyw gynrychioliadau o unrhyw fath mewn cysylltiad â’r cwrs gan gynnwys, a heb gyfyngiadau, unrhyw awgrym y gwarentir ffitrwydd ar gyfer diben penodol neu farchnadwyedd. n) Atebolrwydd: hyd yr eithaf a ganiateir gan y gyfraith:
I gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau ‘Ymwybyddiaeth o Gyflymder Cenedlaethol’, ac am wybodaeth ynghylch diogeledd talu â cherdyn credyd, ewch i’n gwefan www.AAdrivetech.com neu ysgrifennwch atom i gael copi gan nodi ardal awdurdod yr heddlu a wnaeth eich cyfeirio: AA DriveTech, DriverAware Division, PO Box 6838, Fanum House, Basing View, Basingstoke, RG24 4PX. |